Amdanom ni
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad o ddylunio a chyflenwi ceginau ac ystafelloedd ymolchi o safon, rydym yn gwmni sefydledig a pharchus ac yn ymfalchïo ar allu cynnig gwasanaeth i bawb yn yr ardal, gan weithio o fewn eich cyllideb beth bynnag eich anghenion.
Mae ein hystafell arddangos wedi'i leoli ar y Stryd Fawr ym Mhwllheli yng Ngogledd Cymru. Mae croeso i chi ddod i fewn i’n gweld neu ewch i'n galeri lle byddwn yn llwytho lluniau o ystafelloedd cleientiaid.
Ceginau
Mae Steil yn cynnig ceginau o safon gan Daval, Burbidge, Charles Rennie Mackintosh a English Rose. Gellir gweld enghreifftiau yn ein hystafell arddangos ym Mhwllheli.
YSTAFELLOEDD MOLCHI
Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano, boed yn sylfaenol neu'n foethus, bydd Steil yn siwr y gallwn gynnig yr hyn yr ydych eisiau. Rydym yn gweithio â chyflenwyr o ansawdd.
TEILS
Mae ein hystafell arddangos ym Mhwllheli yn cynnig amrywiaeth eang o deils wal a llawr o ansawdd i'w gweld. Rydym hefyd yn cynnig Amtico fel opsiwn vinyl.
GWASANAETH DYLUNIO
Rydym yn cynnig gwasanaeth dylunio llawn ac yn gallu argymell a threfnu tim o bobl i gyflenwi y gwaith i'r safon uchaf a gyda chi o'r dechrau i'r diwedd.
Cynlluniwr Cegin
Rydym yn falch o gyhoeddi'r delweddwr cegin paentiedig Omega newydd a gwell.
Mae'r delweddwr newydd 3D rhyngweithiol, yn eich galluogi i symud o amgylch yr ystafell a gweld unrhyw un o'n casgliad drws wedi'i baentio mewn unrhyw liw paent Omega. Gallwch ddefnyddio'r Cynlluniwr Cegin i gynllunio'ch cyfuniad cegin delfrydol o'r dewis enfawr o liw ac arddull drws. Cliciwch ar naill ai logo Mackintosh neu English Rose isod i weld mwy.
“Caru’r cegin yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i Steil ”